Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 27 Mehefin 2017
Amser:
08.30 - 08.42
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Jane Hutt AC Paul Davies AC Rhun ap Iorwerth AC Gareth Bennett AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Helen Carey, Llywodraeth Cymru Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd |
Croesawodd y Llywydd Gareth Bennett i'r cyfarfod fel Rheolwr Busnes newydd grŵp UKIP.
Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Hysbysodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes am y ceisiadau a gafwyd ar gyfer Cwestiwn Brys a Dadl Frys ynghylch effaith y cytundeb a wnaed rhwng Llywodraeth y DU a'r DUP ar fformiwla Barnett.
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
· Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 19 Gorffennaf 2017 –
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Cyfoeth Naturiol Cymru: Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2015-16 (60 munud)
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i ymestyn penodiad Cadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru (5 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)
· Dewisodd y Pwyllgor Busnes gynnig ar gyfer y ddadl ar 5 Gorffennaf:
NNDM6349 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig am fil i gefnogi gofalwyr ifanc yng Nghymru.
2. Diben y bil hwn fyddai:
a) darparu canllawiau statudol i ysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru ar gyfer darparu cefnogaeth a hyblygrwydd priodol i ofalwyr ifanc ymgymryd â'u cyfrifoldebau gofal yn ystod oriau ysgol ac ar ôl oriau ysgol;
b) darparu canllawiau i ysgolion i weithio gyda gofalwyr ifanc er mwyn darparu llwybrau hyblyg i sicrhau eu bod yn parhau mewn addysg;
c) caniatáu i ofalwyr ifanc gasglu presgripsiynau ar ran y rhai sydd yn eu gofal, a hynny gyda Cherdyn Gofalwr Ifanc neu ddull arall; a
d) sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sefydliadau priodol i gyflwyno gwasanaeth lliniarol a chefnogaeth i ofalwyr ifanc ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drefnu'r ddadl nesaf ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod yn nhymor yr hydref, wedi iddynt adolygu'r drefn berthnasol.
Yn dilyn cais gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, sy'n bwriadu cyflwyno Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) fel Bil Pwyllgor, cytunodd y Rheolwyr Busnes i ohirio'r cam o wneud penderfyniad mewn egwyddor ynghylch pa bwyllgor y dylid cyfeirio'r Bil ato at ddibenion gwaith craffu, a hynny er mwyn gallu ystyried y Bil yng nghyd-destun rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth, a gyhoeddwyd heddiw.
Gwnaeth y Rheolwyr Busnes:
· nodi'r gofynion statudol newydd sydd wedi'u cynnwys yn Adran 111A a 111B o Ddeddf Llywodraeth Cymru a'r ffaith bod angen newid y Rheolau Sefydlog i'w hadlewyrchu (paragraffau 8-14);
· nodi'r cyngor cyfreithiol a ddarparwyd mewn nodyn atodol, sef Atodiad B, ynghylch y goblygiadau ar gyfer y Cyfnod Ailystyried a'r dull a fabwysiadwyd yn yr Alban, lle mae Deddf yr Alban 2016 wedi cyflwyno darpariaethau sydd yn union yr un fath;
· cytuno i ymgynghori â'u grwpiau ar y materion hyn a dychwelyd atynt i gael penderfyniad mewn cyfarfod yn y dyfodol.